Categorïau
Blog

Cefnogi Iechyd Meddwl Dysgwyr ag ADHD: Beth Gall Ysgolion Ei Wneud Nawr

Yn y blog hwn, mae Dr Abbey Rowe, DECIPHer, yn rhannu canfyddiadau allweddol o’i hymchwil ddoethurol i sut mae ysgolion uwchradd yn llunio iechyd meddwl dysgwyr ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), ynghyd ag argymhellion wedi’u llywio gan ymchwil ar gyfer camau gweithredu y gall ysgolion eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl i’r dysgwyr hyn a’u cefnogi nhw’n well.


Gyda ffocws cynyddol ar gynhwysiant a lles yn ysgolion Cymru, mae hon yn adeg bwysig i fyfyrio ar beth sy’n gweithio, a beth gallai weithio’n dda i ddysgwyr ag ADHD.

I lawer o bobl ifanc ag ADHD, mae heriau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder yn gyffredin a gallant arwain at ganlyniadau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ysgol. Felly, mae deall sut mae ysgolion yn llunio iechyd meddwl dysgwyr ag ADHD yn allweddol ar gyfer nodi sut gallant gael eu cefnogi’n well.

Fe wnaeth dadansoddi data arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yng Nghymru ddarganfod mai bach iawn o amrywio oedd mewn deilliannau iechyd meddwl dysgwyr â symptomau cysylltiedig ag ADHD rhwng ysgolion. Ar yr olwg gyntaf, gallai hyn awgrymu bod ysgolion yn gwneud bach iawn o wahaniaeth i iechyd meddwl dysgwyr ag ADHD, ond fe wnaeth cyfweliadau â dysgwyr a staff ar draws tair ysgol baentio darlun mwyn cymhleth.

Nododd y cyfranogwyr amrywiaeth eang o ffactorau yn yr ysgol a oedd, yn eu barn nhw, yn dylanwadu ar iechyd meddwl dysgwyr ag ADHD, ac nid y tebygrwydd rhwng ysgolion wnaeth sefyll allan, ond yr anghysondeb o fewn ysgolion.

Mae hyn yn awgrymu nad o fewn ysgolion unigol eu hunain y mae’r broblem, ond pa mor gyson yw’r profiad o gefnogaeth o fewn yr ysgolion.

Mae hyn yn bwysig am nad yw gwella iechyd meddwl dysgwyr ag ADHD o reidrwydd yn gofyn am newid strwythurol llwyr. Yn hytrach, gallai dysgwyr elwa o negeseuon dealltwriaeth, hyblygrwydd a chefnogaeth fwy cyson, wedi’u gwreiddio ar draws arfer bob dydd yr ysgol.

Pan fydd ysgolion yn creu heriau yn anfwriadol

Ar draws cyfweliadau, disgrifiodd dysgwyr a staff gamgymhariad rhwng disgwyliadau a gofynion bywyd ysgol, a nodweddion dysgwyr ag ADHD, gan gyfrannu’n gynyddol at iechyd meddwl gwaeth gydag amser.

Daeth i’r amlwg fod teimlo bod athrawon a chymheiriaid yn eu deall yn arbennig o bwysig, gyda’r farn bod gwybodaeth am ADHD ac empathi tuag ato yn cefnogi ymgysylltiad a lles, a bod camddeall yn gysylltiedig â straen, stigma a mynd i’w cragen.

Fe wnaeth cyfweliadau hefyd amlygu sut mae systemau a strwythurau ysgolion yn llywio cynhwysiant i ddysgwyr ag ADHD, gyda bylchau yn hyfforddiant staff, hyblygrwydd anghyson, amser ac adnoddau cyfyngedig, a phrosesau dan arweiniad diagnosis yn aml yn cyfyngu ar gefnogaeth effeithiol.

Nid yw’r heriau hyn yn anochel ac, yn holl bwysig, gellir mynd i’r afael â llawer ohonynt trwy newidiadau bach cyffredin mewn ymarfer.

Beth Gall Ysgolion Ei Wneud Nawr i Wneud Gwahaniaeth Ar Unwaith

Er bod newid strwythurol yn dibynnu ar gyllid a pholisi cenedlaethol, mae pethau y gall ysgolion eu gwneud nawr, y mae llawer ohonynt yn fach, ond yn ystyrlon.

Datblygwyd yr awgrymiadau canlynol gyda phartneriaid ysgolion a phobl sydd â phrofiad bywyd o ADHD:

  • Meithrin Dealltwriaeth Gyffredin o ADHD a Diwylliant o’i Dderbyn

Defnyddio arbenigedd presennol mewn cymunedau ysgol, timau ADY ac adnoddau seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin, barhaus o ADHD, niwroamrywiaeth ac amrywiadau unigol. Nid oes rhaid i hyn olygu rhaglenni hyfforddiant ar raddfa fawr; gall ddechrau gyda sgyrsiau byr mewn cyfarfodydd staff, dysgu cymheiriaid, gwasanaethau, neu amser tiwtor.

Dylai’r ffocws fod ar ddeall niwroamrywiaeth a chydnabod gwahaniaethau unigol, nid dim ond labeli neu ddiagnosisau. Dylid trin deall ADHD fel proses barhaus, yn hytrach nag un sesiwn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

  • Trefnu Mai Anghenion, Nid Diagnosis, Sy’n Arwain Cefnogaeth

Lle bo’n bosibl, sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar sail anghenion dysgwr, yn hytrach nag aros am ddiagnosis ffurfiol. Gall normaleiddio addasiadau sy’n cefnogi rheoleiddio, trefnu ac ymgysylltu i bob dysgwr leihau stigma, atal oedi cyn cael cefnogaeth, lleihau dibyniaeth ar dimau ADY, a sicrhau nad oes neb heb gefnogaeth tra bydd asesiadau’n mynd rhagddynt.

  • Blaenoriaethu Cysondeb Ymarfer Pob Dydd

Mae cysondeb ar draws ystafelloedd dosbarth yn allweddol. Cytuno ar nifer fach o arferion cynhwysol sydd ar gael yn gyson ar draws ystafelloedd dosbarth, a’u cyfleu, megis trefn sy’n gallu cael ei rhagweld, opsiynau dysgu hyblyg, seibiannau rheoleiddio rheolaidd, ac amcanion a chyfarwyddiadau wedi’u hesbonio’n glir.

Pan fydd cynlluniau cefnogaeth ar waith yn barod gan ddysgwyr, dylai’r rhain gael eu gweithredu’n ddibynadwy a’u hadolygu’n gydweithredol gyda’r dysgwr i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw heriau.

  • Rhoi Perthnasoedd Yn Ganolog

Gwreiddio arferion perthyn syml ym mywyd dyddiol yr ysgol, fel holi dysgwyr sut maen nhw, esbonio penderfyniadau, gwrando ar yr hyn sy’n well ganddynt, a chynnwys dysgwyr mewn sgyrsiau am yr hyn sy’n eu helpu i deimlo’u bod yn cael eu cefnogi ac i gryfhau ymddiriedaeth.

Gallai hyn fod mor syml â holi’n gyflym sut mae’r dysgwr ar ddechrau gwers, neu gydnabod pan fydd dysgwyr yn gwneud ei orau, nid dim ond pan fydd yn llwyddo.

  • Ymdrin Ag Ymddygiad Yn Drugarog

Symud tuag at ymatebion mwy trugarog a phwyllog tuag at ymddygiad, trwy ddibynnu’n llai ar ddulliau sy’n cosbi a blaenoriaethu empathi, dealltwriaeth o ADHD, a chefnogaeth briodol. Gall creu lleoedd ar gyfer rheoleiddio, defnyddio dulliau seiliedig ar gryfder, ac ymateb i ymddygiad gydag iaith barchus helpu pob dysgwr i deimlo’n fwy diogel a’u bod yn cael eu deall a’u cefnogi’n well, ar draws cymuned yr ysgol. Yn holl bwysig, mae llawer o’r dulliau hyn o fudd i bob dysgwr, nid dim ond dysgwyr ag ADHD.

  • Blaenoriaethu Amser i Rannu Beth Sy’n Gweithio

Gallai hyn gynnwys trafod anawsterau, cyfnewid datrysiadau, a herio rhagdybiaethau yn ofalus am ymddygiad a galluoedd dysgwyr. Yn holl bwysig, mae angen i unrhyw amser sy’n cael ei greu ddod o ailgydbwyso blaenoriaethau presennol, yn hytrach nag ychwanegu at lwythi gwaith sydd eisoes o dan bwysau.

Newidiadau Bach, Negeseuon Mwy

Mae’n bwysig cydnabod y byddai gwelliant parhaus ysgol yn elwa’n fawr o gefnogaeth ehangach, gan gynnwys digon o gyllid, canllawiau cliriach a llwybrau diagnostig mwy hygyrch. Heb y rhain, mae perygl gosod gormod o bwysau ar ysgolion.

Fodd bynnag, ni ddylai aros am ddiwygio lefel system olygu sefyll yn yr unfan. Gall negeseuon bach cyson anfon neges rymus at ddysgwyr: Rwyt ti’n cael dy ddeall, yn cael dy dderbyn, ac nid yw cefnogaeth yn amodol.’

Pan fydd y neges honno’n cael ei hadlewyrchu ar draws polisïau, ystafelloedd dosbarth ac athrawon, gall ysgolion leihau straen dyddiol i ddysgwyr ag ADHD. Trwy gefnogi’r dysgwyr hyn yn well, gall ysgolion greu amgylcheddau sy’n teimlo’n fwy cefnogol, cynhwysol ac, yn anad dim, pleserus i bawb.

Mae hyn yn oed newidiadau bach yn gallu bod yn ysgogiad buddiol. Mae cysondeb, trugaredd a dealltwriaeth ymhlith yr adnoddau mwyaf grymus sydd gan ysgolion yn barod. Nid gwybod beth i’w wneud yw’r her – ond ei wneud yn gyson, bob dydd, mewn ffyrdd sy’n gweithio i bob dysgwr.