
Sut mae, Nicole Gelfert ydw i, myfyrwraig PhD yn yr ail flwyddyn yn DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, sef cartref academaidd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).
Nod ymchwil fy noethuriaeth yw deall problemau ymddygiad dysgwyr yn well a chanfod dulliau ymarferol i ysgolion a llunwyr polisi gefnogi dysgwyr yn fwy effeithiol.
Rhennir fy ymchwil yn dri cham ac mae pob un yn cyfrannu at ddealltwriaeth fwy cyflawn o anghenion dysgwyr a realiti cyd-destunau’r ysgol.
1️⃣ Cam Un
Gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, rwy wrthi’n cwblhau cam cyntaf fy ymchwil sy’n ymdrin â’r ffactorau risg a’r tueddiadau ynghlwm wrth broblemau ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
2️⃣ Cam Dau
Yn nes ymlaen yr haf hwn, bydda i’n gwahodd ysgolion uwchradd a gynhelir i gymryd rhan yn ail gam fy ymchwil fydd yn cynnwys grwpiau ffocws gyda staff ysgolion a chyfweliadau â dysgwyr Blwyddyn 10. Defnyddiwyd data’r Rhwydwaith yn y dewis i ymgysylltu â dysgwyr Blwyddyn 10, gan awgrymu bod y grŵp blwyddyn hwn wedi cael yn gyson y ganran uchaf o ddysgwyr â lefelau uchel neu uchel iawn o broblemau ymddygiad rhwng 2019 a 2023 (Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2025).
Nod y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau fel ei gilydd yw deall profiadau a safbwyntiau aelodau o gymuned yr ysgol mewn perthynas ag ymddygiad dysgwyr ac i ganfod polisïau ac arferion sy’n ymarferol ac yn dderbyniol i’r staff a dysgwyr.
3️⃣ Cam tri
Bydd cam olaf fy ymchwil yn cynnwys ymgynghori â chydweithwyr allweddol i ddatblygu adnoddau canllaw yn seiliedig ar ganfyddiadau dau gam cyntaf yr astudiaeth. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu ysgolion a llunwyr polisi i ddeall anghenion dysgwyr yn well a sut y gellir gwella arfer a pholisïau wrth symud ymlaen.
🔎 O’r Addysgwr i’r Ymchwilydd
Cyn dechrau fy noethuriaeth, treuliais i 20 mlynedd yn gweithio mewn colegau a phrifysgolion yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys rolau â chyfrifoldeb bugeiliol sylweddol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu newidiadau sylweddol yn anghenion dysgwyr, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles.
Er bod y sefydliadau ro’n i’n gweithio ynddyn nhw wedi ymrwymo i ddatblygu mentrau ymatebol a rhaglenni arloesol, yn aml roedd yn anodd ymgorffori arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Roedd ymchwil yn aml yn llusgo ar ôl realiti beunyddiol y campws a’r dysgwyr. Hyd yn oed a minnau’n ymarferydd profiadol, des i ar draws problemau newydd a heriol fwyfwy ac, ar adegau, ro’n i’n teimlo’n nad o’n i’n barod ato a bod pethau’n mynd yn drech na mi.
Mewn sgyrsiau gydag arweinwyr ysgolion ac athrawon, sylweddolais i nad oedd fy mhrofiad yn un unigryw. Mae ysgolion yn parhau i ymgodymu ag anghenion cymhleth ac esblygol dysgwyr ochr yn ochr â llawer o ofynion sy’n cystadlu â’i gilydd. Yn y pen draw, roedd fy awydd i greu adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu arweinwyr ysgolion ac athrawon i deimlo’n fwy hyderus a bod llai o bethau’n mynd yn drech na nhw wrth gefnogi iechyd meddwl a lles wedi fy arwain at ddilyn PhD. Rwy eisiau cyfrannu at ymchwil sy’n ddefnyddiol i ysgolion ac sy’n helpu i greu lleoliadau lle gall dysgwyr ffynnu.
