Pam dylech chi ymuno â grŵp cynghori ymchwil? Helpu i lunio dyfodol cefnogaeth iechyd mislif yn ysgolion Cymru.

Dr Samantha Garay, DECIPHer Prifysgol Caerdydd
Cyflwyniad
A finnau’n ymchwilydd, rhai o’r sgyrsiau mwyaf gwerthfawr rwy’n eu cael yw gydag athrawon, nyrsys ysgol, rhieni, gofalwyr a phobl ifanc.
Dros y blynyddoedd, mae un pwnc wedi codi dro ar ôl tro: iechyd y mislif. Boed hynny’n drafod presenoldeb, lles dysgwyr, tegwch, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb neu’r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol, mae pobl yn aml yn cydnabod ei bwysigrwydd ond yn teimlo nad yw’n cael ei drafod ddigon. Mae athrawon wedi disgrifio’r effaith y gall hynny ei chael ar gyfranogiad a phresenoldeb. Mae nyrsys ysgol wedi rhannu’r heriau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i gymorth. Mae rhieni a gofalwyr eisiau i’w plant deimlo eu bod yn cael gwybodaeth ac yn hyderus, tra bod pobl ifanc eu hunain wedi tynnu sylw at brofiadau sy’n ein hatgoffa o pam mae’r pwnc hwn yn bwysig.
Er gwaethaf yr effaith bosibl ar brofiadau dysgwyr, mae’n syndod mai ychydig iawn o dystiolaeth sy’n bodoli yng Nghymru ynghylch pa gefnogaeth sy’n gweithio orau mewn ysgolion a’r gwahaniaeth mae’r gefnogaeth honno’n gallu ei chael.
Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n falch o fod yn rhan o ddwy astudiaeth newydd, dan arweiniad cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n edrych ar gefnogaeth iechyd y mislif mewn ysgolion Cymru.
Cyn i’r ymchwil fynd rhagddi, rydyn ni’n dod â Grŵp Cynghori at ei gilydd i helpu i lunio’r gwaith. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl a all ein helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn dangos sut beth yw bywyd mewn gwirionedd mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.
Dwy Astudiaeth, Un Nod Cyffredin
Er y gall iechyd y mislif effeithio ar bresenoldeb, cyfranogiad, hyder a lles, mae yna lawer nad ydyn ni’n ei wybod o hyd am yr hyn sy’n gweithio orau mewn ysgolion.
Bydd yr astudiaeth gyntaf yn edrych ar sut mae bechgyn a dynion ifanc yn ymateb i addysg iechyd y mislif. Mae ymchwilwyr eisiau deall yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod am y mislif, sut y byddai’n well ganddyn nhw ddysgu amdano, a sut mae’n bosibl i ysgolion gefnogi sgyrsiau agored a gwybodus am bwnc sydd yn aml yn gysylltiedig â stigma neu gamddealltwriaeth.
Bydd yr ail astudiaeth yn defnyddio data arolwg y Rhwydwaith sy’n gysylltiedig â chofnodion iechyd ac addysg i edrych ar sut mae cefnogaeth iechyd mislif mewn ysgolion yn ymwneud â deilliannau dysgwyr, gan gynnwys iechyd a lles, presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol.
Gyda’i gilydd, bydd y canfyddiadau’n helpu i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth yng Nghymru sy’n ymwneud â chefnogaeth iechyd y mislif mewn ysgolion a dylanwadu ar ganllawiau, adnoddau a chymorth ledled Cymru yn y dyfodol. Mae’r gwaith hefyd yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif Llywodraeth Cymru a gwaith parhaus ysgolion i gefnogi iechyd a lles dysgwyr.
Pam ddylech chi ymuno â’n Grŵp Cynghori?
Yn syml iawn, oherwydd bod eich profiad yn bwysig.
Mae athrawon, nyrsys ysgol, rhieni, gofalwyr a phobl ifanc i gyd yn dod â safbwyntiau gwahanol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ein helpu i ddeall nid yn unig beth yw’r heriau, ond sut olwg allai fod ar ofal ystyrlon yn ymarferol.
Bydd aelodau’r Grŵp Cynghori yn helpu i lunio’r ymchwil, cynnig adborth ar adegau allweddol a’n helpu i ddehongli’r canfyddiadau. Gallan nhw herio rhagdybiaethau, tynnu sylw at faterion efallai nad ydyn ni wedi’u hystyried a helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu realiti bywyd ysgol bob dydd.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymuno â Grŵp Cynghori oherwydd bod y pwnc yn bwysig iddyn nhw ac maen nhw eisiau gwneud gwahaniaeth. Ond gall hefyd fod yn brofiad gwerthfawr ynddo’i hun. Cewch chi gipolwg y tu ôl i’r llenni ar sut mae’r ymchwil yn cael ei llunio, sut mae canfyddiadau’n cael eu dehongli a sut gall tystiolaeth ddylanwadu ar bolisi ac arferion yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i glywed safbwyntiau gwahanol a dysgu gan eraill sy’n gweithio mewn ysgolion, ym meysydd iechyd ac ymchwil, ac yn y gymuned ehangach.
Gall staff ysgolion gefnogi eu datblygiad proffesiynol drwy gymryd rhan. Bydd aelodau’r Grŵp Cynghori yn cael tystysgrif ar gyfer eu cofnodion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn ennill profiad o ymchwil, cydgynhyrchu a gwaith cynghori.
Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, gweithio gydag ymchwilwyr a chyfrannu at newid cadarnhaol i ddysgwyr ledled Cymru.
Yn bwysicaf oll, byddwch chi’n ein helpu i ddatblygu ymchwil rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gwella cymorth i ddysgwyr ledled Cymru.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ystod eang o bobl, gan gynnwys arweinwyr ysgolion, athrawon, staff bugeiliol, nyrsys ysgol, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd, llunwyr polisïau, sefydliadau’r trydydd sector, rhieni, gofalwyr a phobl ifanc.
Bydd y Grŵp Cynghori yn cwrdd ar-lein ddwywaith yn ystod y prosiect, gan roi’r cyfle i aelodau gyfrannu ar adegau allweddol yr ymchwil. Bydd pob cyfarfod yn para tua 90 munud.
