
Mae ysgolion ar draws Cymru yn derbyn adroddiad lefel ysgol y Rhwydwaith, sy’n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau, ymddygiadau ac anghenion dysgwyr.
Un peth yw derbyn data’r Rhwydwaith. Mater arall yw troi’r mewnwelediadau hynny yn weithredu. Wrth weithio ar yr astudiaeth achos hon, sylwais fy mod i’n myfyrio ar sut mae’r ysgolion yn cyflawni’r daith honno. Mae’r astudiaeth achos yn dilyn ysgolion uwchradd ledled clwstwr Aberdâr wrth iddynt gydweithio i ddehongli tystiolaeth, amlygu blaenoriaethau, a datblygu dull ar y cyd o wella iechyd a lles dysgwyr.
Yr hyn a’m tarodd oedd pa mor aml roedd canfyddiadau’r Rhwydwaith yn fan cychwyn sgyrsiau ehangach.
Ar y cyd â gwybodaeth leol, arbenigedd proffesiynol a ffynonellau tystiolaeth eraill, fe helpodd ysgolion i symud y tu hwnt i ofyn “Beth sy’n digwydd?” a thuag at ddeall pam a beth gallent ei wneud nesaf.
Dechrau gyda Data’r Rhwydwaith
Trwy’r trafodaethau hyn, symudodd ysgolion o adolygu canfyddiadau’r arolwg i nodi bod gweithgarwch corfforol yn flaenoriaeth ar y cyd. Roedd yr hyn a ddilynodd yn edrych yn wahanol o ysgol i ysgol, ond roedd yr holl weithgarwch yn gysylltiedig â ffocws ar y cyd ar greu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr fod yn actif trwy gydol y diwrnod. Cyflwynodd ysgolion ardaloedd chwarae actif, cynnwys seibiannau symud mewn gwersi, adolygu’r ddarpariaeth allgyrsiol gan ddefnyddio canfyddiadau’r Rhwydwaith a’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, a gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo teithio llesol.
Ar ôl cytuno ar y flaenoriaeth honno ar y cyd, trodd sylw i gynllunio. Datblygodd ysgolion amcanion ar y cyd ac archwilio ffyrdd ymarferol o gynyddu cyfleoedd i symud yn ystod y diwrnod ysgol. Er bod dulliau’n amrywio ar draws lleoliadau, fe wnaeth ffocws cyffredin helpu i gysoni gweithgarwch ar draws y clwstwr.
Fe wnaeth nodi ffocws ar y cyd helpu i lywio cynllunio at y dyfodol a rhoddodd faes cyffredin i ysgolion ei archwilio ar draws y clwstwr. Yn hytrach na chanolbwyntio ar un ystadegyn, ystyriont y ffactorau ehangach sy’n effeithio ar gyfranogiad ac ymhle y gallent gydweithio ar draws y clwstwr.
I ddeall y canfyddiadau’n fanylach, gweithiodd ysgolion gyda chydweithwyr o Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHPWS) Cwm Taf Morgannwg i lunio darlun llawnach.
Cyfunodd ysgolion ganlyniadau’r arolwg â deallusrwydd lleol, gwybodaeth am iechyd y boblogaeth a data cwrs bywyd. Roedd dwyn y ffynonellau gwahanol hyn ynghyd wedi helpu i lunio dealltwriaeth fwy cyfoethog o’r ffactorau sy’n llywio profiadau dysgwyr, a sicrhaodd fod penderfyniadau’n cael eu seilio ar dystiolaeth.
Roedd rhai o’r trafodaethau mwyaf buddiol yn canolbwyntio ar y dystiolaeth cwrs bywyd. Helpodd data’r Rhwydwaith i amlygu ymhle y byddent efallai am hoelio’u sylw, ac ychwanegodd y dystiolaeth cwrs bywyd gyd-destun gwerthfawr. Lluniodd profiadau plentyndod cynnar, amgylchiadau teuluol, cyfleoedd am weithgarwch corfforol a dylanwadau cymunedol i gyd ran o’r drafodaeth. Fe wnaeth ystyried y ffactorau hyn ochr yn ochr â chanfyddiadau’r Rhwydwaith helpu ysgolion i feithrin dealltwriaeth lawnach o brofiadau dysgwyr a chefnogi dull mwy ataliol.
Dim ond rhan o’r darlun oedd canlyniadau’r arolwg.
Helpodd canfyddiadau’r arolwg i amlygu meysydd ar gyfer ffocws, ond y sgyrsiau o’u hamgylch a helpodd yr ysgolion i benderfynu beth i’w wneud nesaf. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, cytunodd yr ysgolion yn y pen draw ar flaenoriaeth ar y cyd yn ymwneud â gweithgarwch corfforol. O’r fan honno, trodd y ffocws tuag at gynllunio ar gyfer gweithredu, gydag ysgolion yn datblygu amcanion ar y cyd, yn cytuno ar ddeilliannau, ac yn manteisio ar gymorth gan bartneriaid i roi eu cynlluniau ar waith. Nid dim ond adolygu data yr oedd ysgolion. Roeddent yn gofyn cwestiynau, yn archwilio esboniadau posibl ac yn ystyried beth oedd y canfyddiadau’n ei olygu yn eu hysgol. Amlygodd yr arolwg feysydd yr oedd angen sylw arnynt, yna helpodd y trafodaethau dilynol i ysgolion ddeall y patrymau a welont yn well.
Gwneud synnwyr o’r dystiolaeth gyda’i gilydd
Un o wir gryfderau’r prosiect oedd y cyfle i ysgolion ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Trwy Gymuned Ymarfer, daeth athrawon o bob rhan o’r clwstwr ynghyd i drafod canfyddiadau, rhannu profiadau a myfyrio ar heriau cyffredin. Daeth pob ysgol â rhywbeth gwahanol i’r sgwrs. Roedd ganddynt gyd-destunau gwahanol, cryfderau gwahanol a blaenoriaethau gwahanol. Nid oedd dod i gytundeb llawn fyth yn nod.
Yn hytrach, cydweithiodd ysgolion i ddeall beth roedd y dystiolaeth yn ei ddweud wrthynt a sut y gallai lywio cynllunio at y dyfodol. Fe wnaeth y trafodaethau helpu i ddwyn safbwyntiau amrywiol ynghyd, gan ganiatáu i ysgolion archwilio problemau cyffredin ac anghenion lleol.
Wrth i mi weithio drwy’r astudiaeth achos, roeddwn yn dychwelyd bob amser i bwysigrwydd gwneud synnwyr o’r dystiolaeth gyda’i gilydd.
Gall adroddiad y Rhwydwaith gynnig mewnwelediadau gwerthfawr, ond mae ar ysgolion angen amser i ddehongli’r canfyddiadau, cymharu profiadau ac ystyried beth maen nhw’n ei olygu yn ymarferol.
Rhoddodd y Gymuned Ymarfer y cyfle hwnnw.
Rhoddodd gyfle i athrawon fyfyrio ar y dystiolaeth gyda’i gilydd, gofyn cwestiynau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Trwy wneud hynny, helpodd ysgolion i symud y tu hwnt i ddim ond adolygu eu canfyddiadau gan y Rhwydwaith, a thuag at wneud penderfyniadau gwybodus am beth i’w wneud nesaf.
Mae perthnasoedd yn bwysig
Rhoddodd y Gymuned Ymarfer fwy na fforwm i drafod data. Creodd amser a lle i ysgolion ddod ynghyd, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ymrwymodd ysgolion i’r broses, gan gyfarfod yn rheolaidd a gweithio trwy heriau gyda’i gilydd. Gydag amser, datblygodd ymddiriedaeth, gan ei gwneud hi’n haws cael sgyrsiau agored am flaenoriaethau, cyfleoedd a meysydd i’w gwella.
Hefyd, pwysleisiodd rywbeth rydym ni’n ei weld yn aml trwy waith y Rhwydwaith. Gall tystiolaeth bwyntio ysgolion i’r cyfeiriad cywir, ond daw ei gwerth gwirioneddol yn aml trwy’r sgyrsiau y mae’n eu tanio a’r penderfyniadau sy’n dilyn.
Er mai megis dechrau y mae’r gwaith, siaradodd ysgolion yn gadarnhaol am werth cydweithio. Fe wnaeth cyfarfodydd rheolaidd, cynlluniau gweithredu ar y cyd a chefnogaeth barhaus helpu i gynnal momentwm, tra rhoddodd cyfleoedd i rannu llwyddiannau a heriau hyder i staff roi cynnig ar ddulliau newydd. Hefyd, amlygodd nifer o ysgolion fuddion cael strwythur rhagweladwy ac amserlenni clir, gan helpu i’r gwaith deimlo’n hyfyw ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill.
Troi Trafod yn Weithredu
Fe wnaeth adnoddau cynllunio ymarferol helpu i droi trafod yn weithredu. Rhoesant ffordd gyffredin i ysgolion gynllunio, adolygu cynnydd a chynnal y momentwm.
Mae’r astudiaeth achos yn archwilio rhai o’r dulliau hyn yn fanylach, gan ddangos sut y gwnaeth strwythurau syml helpu i gynnal ffocws y gwaith gydag amser.
O ddiddordeb i mi oedd pa mor syml yr oedd cymaint o’r dulliau. Fe wnaeth amcanion clir, camau gweithredu y cytunwyd arnynt a chyfleoedd rheolaidd i adolygu cynnydd helpu i droi bwriadau da yn weithgarwch parhaus. Yn hytrach na chreu haenau ychwanegol o waith, helpodd y strwythurau hyn i ysgolion gynnal eu ffocws ar y blaenoriaethau a nodont drwy’r dystiolaeth a dal ati i symud ymlaen gyda’i gilydd.
Gwerth Gweithio mewn Partneriaeth
Daeth y prosiect â chydweithwyr ynghyd o sefydliadau addysg, iechyd a chymunedol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon RhCT. Daeth pob partner â safbwynt gwahanol, gan helpu ysgolion i ddehongli canfyddiadau, archwilio dulliau posibl a throi at gymorth ychwanegol, lle bo angen.
Trwy gydol y prosiect, ysgolion oedd wrth y llyw drwy’r amser.
Darparodd partneriaid allanol arbenigedd a chymorth, ond yr ysgolion eu hunain oedd yn gyfrifol am benderfyniadau am flaenoriaethau a gweithredu. Yn ymarferol, daeth yn ffordd wirioneddol gydweithredol o weithio, gan gyfuno perchnogaeth leol ag arbenigedd.
Mae’n dangos gwerth cydweithio gan ysgolion a phartneriaid iechyd tuag at nod cyffredin.
Beth gall ysgolion eraill ei gymryd o hyn?
Nid oes unrhyw ddwy ysgol yr un fath ac ni fydd beth weithiodd yn Aberdâr yn union yr un fath rywle arall.
Serch hynny, mae ambell beth a allai fod yn ddefnyddiol i ysgolion eraill.
- Defnyddio data’r Rhwydwaith yn fan cychwyn ar gyfer sgwrs, yn hytrach nag yn fan gorffen.
- Ystyried canfyddiadau ochr yn ochr â deallusrwydd lleol a ffynonellau tystiolaeth eraill.
- Manteisio ar gymorth ac arbenigedd sydd ar gael gan WNHWPS.
- Creu cyfleoedd i athrawon drafod a dehongli tystiolaeth gyda’i gilydd.
- Rhoi strwythurau ymarferol ar waith sy’n cefnogi gweithredu ac atebolrwydd.
- Cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth, ymddiriedaeth a pherthnasoedd.
- Gwneud y mwyaf o bartneriaethau ac arbenigedd allanol, lle bo’n briodol.
Beth arhosodd gyda mi oedd faint o amser dreuliodd ysgolion yn gwneud synnwyr o’r dystiolaeth. A chyn bwysiced, creodd ysgolion y strwythurau yr oedd eu hangen i droi’r trafodaethau hynny yn weithredu a chynnal momentwm ar ôl i’r gwaith ddechrau.
Cyn i mi ddechrau gweithio ar yr astudiaeth achos, disgwyliais y byddai’r ffocws ar y camau gweithredu a gymerwyd gan ysgolion yn y pen draw.
Yn hytrach, sylwais fy mod yn cael fy nenu at bopeth a ddigwyddodd cyn hynny. Rhannodd athrawon safbwyntiau, gofyn cwestiynau a chymryd amser i ddeall beth oedd y canfyddiadau’n ei olygu yn eu cyd-destun eu hunain cyn penderfynu ymhle i hoelio sylw eu hymdrechion. I mi, dyna un o gryfderau data’r Rhwydwaith. Mae’r canfyddiadau’n bwysig, ond sut mae ysgolion yn eu defnyddio sydd wir o bwys.
Mae clwstwr Aberdâr yn cynnig enghraifft dda o sut y gall ysgolion ddefnyddio canfyddiadau’r Rhwydwaith i feithrin dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn sy’n digwydd ar gyfer dysgwyr a phenderfynu ymhle i hoelio sylw eu hymdrechion.
Os hoffech ddysgu rhagor, gallwch ddarllen yr astudiaeth achos lawn, sef Adeiladu Cymuned Ymarfer: Ymagwedd Clwstwr Ysgolion Aberdâr at Iechyd a Lles,ar wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
