Mae yna ystod o bynciau newydd wedi’u hychwanegu at y dangosfwrdd presennol ar welliannau blaenorol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddioldeb – gan wneud y dangosfwrdd yn haws i’w lywio ac yn fwy greddfol i ddefnyddwyr ledled Cymru.
Beth sy’n newydd?
Rydyn ni’n cyflwyno 11 pwnc newydd o arolwg 2023, gan gynnwys:
Cyfeillgarwch a chefnogaeth i’r teulu
Gwaharddiadau ysgol a thriwantiaeth
Er mwyn helpu defnyddwyr i edrych ar dueddiadau hirdymor, rydyn ni hefyd wedi ychwanegu data hanesyddol o flynyddoedd arolwg 2017–2021 (lle bo ar gael).
Prif welliannau
Mae dadansoddiadau ethnigrwydd bellach ar gael ar draws y pedair blynedd o ddata
Dadansoddiad Grŵp Blwyddyn yn ôl Awdurdod Lleol—un o’n nodweddion mwyaf poblogaidd!
Mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu data o ansawdd uchel a hygyrch i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid sy’n gweithio i wella iechyd a lles pobl ifanc.
Nodwch y dyddiad yn eich calendr – mae’r dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru yn mynd yn fyw ar 27 Tachwedd!
Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut y defnyddiodd Ysgol Bro Taf ddata’r Rhwydwaith i nodi bod fepio yn bryder cynyddol a lansio ymateb ysgol gyfan. Fe wnaeth hyn gynnwys diweddaru polisïau, newidiadau i’r cwricwlwm a chydweithredu â theuluoedd a phartneriaid iechyd cyhoeddus. Chwaraeodd dysgwyr rôl allweddol trwy ddysgu seiliedig ar brosiect a thrafodaethau ar effeithiau fepio. Mae arwyddion cynnar yn dangos newid cadarnhaol mewn agweddau, ac mae’r ysgol yn ymrwymo i adeiladu ar y cynnydd hwn trwy barhau i ddefnyddio data ac ymgysylltu â dysgwyr.
Grymuso Cymunedau Ysgolion: Dull Ysgol Gyfan, wedi’i lywio gan Ddata, ar gyfer Atal Fepio
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod pob ysgol uwchradd yng Nghymru bellach wedi cofrestru ar gyfer casgliad data 2025 y Rhwydwaith. Dyma garreg filltir enfawr – ac mae’n dyst go iawn i’r ymroddiad a’r gwaith tîm ar draws y rhwydwaith.
Meddai Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith:
‘Mae cyrraedd 100% mewn cofrestriadau yn dangos cymaint o bwys y mae ysgolion yn ei roi ar rôl y Rhwydwaith yn cefnogi iechyd a lles dysgwyr, a gwella ysgolion. Mae’n eiliad falch i bawb sy’n gysylltiedig.
Diolch enfawr i bawb sydd wedi helpu i wireddu hyn. Mae eich cefnogaeth barhaus yn helpu i lywio dyfodol iachach yng Nghymru.
Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol cryfach, iachach i bobl ifanc yng Nghymru. Gadewch i ni barhau i yrru newid cadarnhaol gyda’n gilydd.’
Caewyd cofrestru yn swyddogol ar 18 Gorffennaf, ac rydym ni bellach yn gofyn i ysgolion gwblhau dwy ran yr arolwg:
Bydd casglu data’r arolwg ar agor tan 19 Rhagfyr 2025, gan roi amser i ysgolion gasglu cipolygon ystyrlon a fydd yn helpu i lywio cynllunio a pholisi yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch ein Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth, Maria Boffey.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n amlygu anghenion tystiolaeth heb eu bodloni yn y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol. Yn y blog hwn, mae Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith, yn archwilio sut mae data cadarn a rheolaidd y Rhwydwaith yn helpu i fynd i’r afael â’r bylchau hyn. Mae arolygon y Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion a llunwyr polisi gyda thystiolaeth am les disgyblion a staff, tegwch ac effaith. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y Rhwydwaith yn gyfrannwr allweddol at fonitro a gwerthuso hirdymor mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.
Yma yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), rydym ni’n croesawu cyhoeddi’r Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: anghenion tystiolaethol heb eu diwallu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn amlygu pwysigrwydd data cadarn a rheolaidd i werthuso sut mae Fframwaith y Dull Ysgol Gyfan yn cael ei gyflawni ac, yn holl bwysig, pa wahaniaeth mae’n ei wneud.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod bod ystod eang o wybodaeth werthfawr eisoes wedi cael ei chasglu, casglwyd llawer ohoni trwy weithgareddau unigol. I ategu gwelliant parhaus, mae’r adroddiad yn amlygu bod angen data mwy cyson a chynrychioliadol o bob rhan o gymuned yr ysgol – yn enwedig gan staff ysgol a rhieni/gofalwyr.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o feysydd allweddol lle mae angen rhagor o dystiolaeth, gan gynnwys:
Ymgysylltu a chyfathrebu â chymuned yr ysgol gyfan.
Llesiant ac anghenion cymorth staff.
Diwylliant ac amgylchedd ysgolion.
Blaenoriaethu ac adnoddau.
Partneriaethau â gwasanaethau cymorth.
Alinio â strategaethau addysg ac iechyd.
Cyflawni ar draws pob lleoliad addysg.
Profiadau, llesiant ac anghenion hyfforddiant staff.
Dyma ble mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan allweddol o ran mynd i’r afael â’r anghenion tystiolaethol a nodwyd yn adroddiad Llywodraeth Cymru. Trwy ein harolygon rheolaidd ar lefel dysgwyr ac ysgolion, mae’r rhwydwaith yn darparu ffynhonnell gadarn a chynrychioliadol o ddata iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a lles; gweithgarwch corfforol; ymddygiadau deietegol; defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol; perthnasoedd cymdeithasol; cysylltedd â’r ysgol; iechyd rhywiol a defnyddio sylweddau. Mae’r dystiolaeth hon yn cynorthwyo ysgolion, awdurdodau lleol a llunwyr polisi cenedlaethol i olrhain cynnydd, amlygu bylchau a hysbysu ymyriadau targedig.
Hefyd, rydym yn cipio llais y disgybl a chyfranogiad, gan helpu i sicrhau bod dysgwyr yn chwarae rhan weithgar mewn llunio mentrau lles. Mae ein data’n ategu dadansoddiadau o degwch a chynhwysiant, gan amlygu sut brofiad a gaiff gwahanol grwpiau o ddarpariaeth iechyd a lles. Trwy gysylltu ymdrechion lles â deilliannau addysgol, rydym yn helpu i ddangos effaith ehangach y mentrau hyn. Yn holl bwysig, mae ein canfyddiadau’n llywio’r ddealltwriaeth o hyder a gallu’r staff i ddarparu cymorth lles, gan sicrhau bod datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau ymarferol a’r heriau sy’n cael eu hwynebu mewn ysgolion. Gyda’i gilydd, mae’r cyfraniadau hyn yn helpu i adeiladu darlun mwy cyflawn, wedi’i lywio gan dystiolaeth, o’r hyn sy’n gweithio – a ble mae angen cymorth pellach.
Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod ein bod yn gyfrannwr allweddol at y sylfaen dystiolaeth:
“Mae hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) sy’n ffynhonnell bwysig o ddata iechyd a lles cadarn, rheolaidd trwy ei arolygon ar lefel dysgwyr ac ysgolion.”
“Mae SHRN yn cynnig cyfle gwych i fynd i’r afael â’r anghenion tystiolaethol heb eu diwallu a nodwyd ar gyfer dysgwyr ac uwch arweinwyr ysgolion er mwyn cefnogi monitro a gwerthuso hirdymor gwell“
Yn ogystal, mae’r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn amlygu sut gall y Rhwydwaith fynd i’r afael â’r bylchau hyn mewn tystiolaeth. Mae data cadarn, manwl a hirdymor ein harolygon yn cael ei gasglu fel mater o drefn oddi wrth dysgwyr mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd, ac uwch arweinwyr ysgolion. Mae data’r dysgwyr (11-16 oed) eisoes yn cael ei integreiddio hefyd i fanc data SAIL, sy’n darparu cyfleoedd gwych am gysylltu â setiau data addysg ac iechyd eraill i archwilio effaith y Fframwaith a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y deilliannau hyn gydag amser.
Yn ogystal, mae’r Rhwydwaith yn cyd-gadeirio Bwrdd y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd i sicrhau bod mesurau’r arolwg yn cyd-fynd â safonau arfaethedig y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles. Mae’r safonau hyn yn cyd-fynd yn agos â’r Fframwaith ac mae’r cysoni hwn yn sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn gallu cefnogi’n uniongyrchol llawer o’r anghenion tystiolaethol heb eu diwallu a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r Rhwydwaith yn gweld cyfleoedd pellach i wella’r tirlun data, gan gynnwys:
Cynnal casgliad peilot o ddata’r arolwg gydag Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) ar draws Cymru.
Yma yn y Rhwydwaith, trwy gydweithio ar draws sectorau, systemau a chymunedau, credwn y gall y Dull Ysgol Gyfan ddod yn rhan ddynamig ac ymatebol o fywyd ysgol – un sy’n esblygu i ateb anghenion newidiol dysgwyr a staff. Mae’r Rhwydwaith yn gwbl ymrwymedig i gefnogi’r weledigaeth hon a chyfrannu at ddyfodol iachach, mwy gwydn i bob dysgwr yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu amgylchedd cryfach, mwy cefnogol, i bob dysgwr ac addysgwr yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n falch o gyhoeddi eu bod yn lansio ail becyn cymorth y cwricwlwm yn eu Prosiect ar y Cwricwlwm Iechyd a Lles: ‘Ymddygiad sy’n Hyrwyddo Iechyd – Ffocws ar Fwyd a Maeth’.
Mae’r prosiect hwn, dan arweiniad y tîm Lleoliadau Addysgol, yn dwyn gweithwyr proffesiynol ynghyd o’r sectorau iechyd ac addysg i gyd-ddatblygu pecynnau cymorth ac adnoddau’r cwricwlwm. Bwriedir i’r rhain gynorthwyo ysgolion i gyflwyno themâu iechyd a lles allweddol fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles newydd.
Mae’r Rhwydwaith wedi chwarae rhan allweddol mewn datblygu pecynnau cymorth y cwricwlwm trwy ddarparu data iechyd a lles cadarn ar lefel ysgol. Mae’r dystiolaeth hon yn sicrhau bod y cynnwys wedi’i seilio ar anghenion a phrofiadau gwirioneddol dysgwyr ar draws Cymru. Mae canfyddiadau ymchwil y Rhwydwaith, gan gynnwys cipolygon i ymddygiadau iechyd allweddol a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg ymhlith pobl ifanc, wedi llywio cynllun adnoddau ymarferol yr ystafell ddosbarth yn uniongyrchol – fel y rhai sy’n ymddangos yn y pecyn cymorth bwyd a maeth.
Mae’r pecynnau cymorth wedi’u seilio ar egwyddorion dylunio’r cwricwlwm ac maent yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i ddysgwyr ac ar eu cyfer. Maent yn amlygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd hanfodol, ac yn cynnig cyfleoedd am ddysgu trosglwyddadwy ar draws themâu a Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.
Gweithgareddau addasadwy’r ystafell ddosbarth sy’n canolbwyntio ar fwyd a maeth
Mae’r adnoddau hyn yn addas i’w defnyddio ar draws amrywiaeth o leoliadau ysgol a bwriedir iddynt gefnogi datblygiad cwricwlwm sy’n berthnasol yn lleol.
Cadwch i fyny â’n hadnoddau a’n newyddion diweddaraf trwy danysgrifio ar gyfer ein e-newyddion (os ydych chi’n cynrychioli ysgol yng Nghymru) neu ein e-grynhoad (i gynulleidfaoedd addysg, iechyd a lles ehangach).
Gan Dr. Honor Young,Dirprwy Gyfarwyddwr, y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Cynulliad Byd-eang er Iechyd y Glasoed
Fe wnaeth Cynhadledd ddiweddar HBSC (Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol) yn Athen ddwyn ynghyd 121 o gynrychiolwyr o 39 o’r 51 aelod wlad a rhanbarth. Fe wnaeth y digwyddiad bywiog hwn nodi’r ail waith yn unig y mae Gwlad Groeg wedi croesawu’r gynhadledd dros y ddau ddegawd diwethaf – gan ei wneud yn achlysur arbennig tu hwnt.
Diwrnod 1: Gosod yr Olygfa
Agorodd y gynhadledd gyda diweddariadau gan y Pwyllgor Cydlynu Rhyngwladol, ac wedyn prif anerchiadau ysbrydoledig. Gosodwyd y naws gan yr Athro Oddrun Samdal, a chlywom fyfyrdodau grymus gan João Breda (WHO Athen) ac uwch swyddogion o Weinidogaethau Iechyd ac Addysg Gwlad Groeg.
Pwysleisiodd eu negeseuon rôl hanfodol cydweithredu rhyngwladol wrth ddatblygu iechyd cyhoeddus.
Enghraifft o’r cydweithredu hwn yw integreiddio HBSC yn strategol o fewn y Rhwydwaith ers 2013, sydd wedi gwella cyfraddau ymateb yn sylweddol ac wedi estyn y sampl genedlaethol yng Nghymru.
Uchafbwyntiau Allweddol:
Cyflwyno 8 adroddiad tuedd HBSC ar bynciau fel anghydraddoldebau cymdeithasol, iechyd rhywiol, ac iechyd meddwl.
Rhannodd Sophie Jullien strategaeth adnewyddedig Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer lles plant a’r glasoed.
Roeddem wrth ein bodd yn gweld Cymru’n cael ei chydnabod am integreiddio HBSC i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (Rhwydwaith) – model ar gyfer monitro a chynllunio iechyd ar lefel ysgol yn effeithiol. Mae ein model, sy’n cyfuno data rhyngwladol â seilwaith cenedlaethol y Rhwydwaith, wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol am fod yn arfer gorau ar gyfer cynllunio gweithredu ynghylch iechyd ar lefel ysgol.
Grwpiau Ffocws a Chydweithrediadau rhwng Gwledydd
Ymunodd cynrychiolwyr â grwpiau ffocws oedd wedi’u halinio â’u harbenigedd, yn amrywio o atal trais i fwyta a cholli pwysau. Fe wnaeth ein clwstwr ni o wledydd (Cymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chanada) hefyd gyfarfod am drafodaethau bywiog ar recriwtio ysgolion a rhannu data. Roedd Cymru’n falch o gyflwyno’i dull trwy ein hadroddiadau ysgol pwrpasol, dangosfyrddau digidol, gweminarau, cylchlythyron a digwyddiadau. Mae’r offer hyn nid yn unig yn cefnogi ysgolion ond yn dangos hefyd sut mae’r Rhwydwaith yn defnyddio data HBSC i yrru ymchwil perthnasol i bolisi a gwella deilliannau iechyd pobl ifanc.
Perfformiad Teimladwy
Digwyddiad a wnaeth sefyll allan oedd perfformiad cerddorol gan En-Techni Psyhi, sef grŵp o ddefnyddwyr ac aelodau cymuned gwasanaeth iechyd meddwl. Fe wnaeth eu perfformiad annog dileu stigmâu trwy gerddoriaeth; profiad emosiynol a chofiadwy.
Cynllun at y Dyfodol
Yn y prynhawn, cyfarfuom â’n gweithgorau arbenigol i gynllunio cylch nesaf yr arolwg. Daeth ennyd falch pan etholwyd Kelly a minnau yn Brif Ymchwilwyr ar y Cyd i Gymru; rôl y mae’n anrhydedd i ni ymgymryd â hi. Hefyd, fe wnaethom ffarwelio â Dr. Chris Roberts, y mae ei gyfraniadau at HBSC wedi bod yn amhrisiadwy.
Diwrnod 2: Archwilio’n Fanwl a Chydweithredu
Mae cymryd rhan yn HBSC yn caniatáu i’r Rhwydwaith gyfrannu at gyfnewid gwybodaeth yn fyd-eang, ac elwa o hynny, gan sicrhau bod Cymru’n parhau’n flaenllaw mewn ymchwil i iechyd y glasoed.
Anogodd yr ail ddiwrnod ddeialog traws-ddisgyblaethol trwy gyfarfodydd grwpiau traws-ffocws yn y bore. Yn nes ymlaen, caniataodd sesiynau pwnc benodol am archwilio meysydd allweddol yn fanylach.
Grwpiau Datblygu
Ar ôl cinio, ymunom â grwpiau datblygu sy’n mynd i’r afael â pholisi, methodoleg, cyflyrau cronig a dulliau dilysu ansoddol.
Uchafbwynt Personol
Cefais y fraint o gadeirio sesiwn iechyd gyfochrog gyda chyflwyniadau rhagorol gan y timau o Lithwania, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg (Fflandrys). Daeth y diwrnod i ben gyda chinio gwresog a bywiog mewn bwyty lleol – gan gryfhau cyfeillgarwch a chydweithrediadau yn y dyfodol.
Diwrnod 3: Mewnwelediadau i Gloi ac Edrych Tua’r Dyfodol
Ar y diwrnod olaf, aethpwyd â ni i Brifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen, lle daeth y gynhadledd i ben gyda thrafodaethau am fodelu aml-lefel ac optimeiddio data.
Roedd y sesiwn gloi yn ddiwedd priodol i ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig. Wrth i ni ffarwelio, gadawodd tîm Cymru’n llawn egni ac yn barod ar gyfer y bennod nesaf.
Meddyliau Terfynol
Wrth i ni barhau â’r gwaith hwn, mae partneriaeth y Rhwydwaith-HBSC yn gonglfaen i’n strategaeth o hyd – cysylltu gweithredu lleol â chipolwg byd-eang i hyrwyddo iechyd a lles pobl ifanc global.
Roedd Cynhadledd HBSC yn Athen yn fwy na chyfarfod yn unig. Roedd yn fodd pwerus o’n hatgoffa am yr hyn y gallwn ei gyflawni trwy gydweithredu, arloesi a diben cyffredin. Wrth i ni ddychwelyd i’n gwaith yng Nghymru, rydym wedi’n hysbrydoli i barhau i adeiladu ar y momentwm hwn.
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at ailgysylltu yn y cyfarfodydd ar-lein ym mis Tachwedd a, gobeithio, mynd i gynhadledd y flwyddyn nesaf, a gynhelir gan y tîm Tsiecaidd!
Cadw mewn Cysylltiad
I gael y diweddaraf am ddatblygiadau’r Rhwydwaith a HBSC, ewch i’n gwefan.
Mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion ar draws Cymru i osod iechyd a lles wrth wraidd addysg. Yn y blog hwn, mae Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith, yn rhannu sut mae ysgolion yn defnyddio data’r Rhwydwaith i lunio strategaethau, cefnogi dysgwyr a chreu newid parhaol, wedi’i lywio gan dystiolaeth….
Sut mae’r Rhwydwaith yn Helpu i AdeiladuYsgolion Cryfach a Dysgwyr Iachach ar draws Cymru
Yn y Rhwydwaith, pan fydd dysgwyr yn iach ac yn cael eu cefnogi, credwn eu bod yn ffynnu – nid dim ond yn academaidd, ond yn gymdeithasol ac yn emosiynol, hefyd. Dyna pam rydym yn falch o fod yn bartner dibynadwy sy’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i wreiddio iechyd a lles yng nghalon bywyd ysgol.
Pam mae’r Rhwydwaith yn bwysig
Bob dwy flynedd, mae’r Rhwydwaith yn cynnal casgliad data cenedlaethol yn cynnwys dysgwyr a staff ysgolion. Nid dim ond arolwg yw hwn – mae’n arf grymus ar gyfer newid.
Pan fydd ysgolion yn cymryd rhan yng nghasgliad data’r Rhwydwaith, maent yn derbyn data teilwredig, wedi’i feincnodi, sy’n cynnig gwerth gwirioneddol. Mae’r data hwn yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu strategaethau presennol, gan amlygu beth sy’n gweithio’n dda ac ymhle y mae lle i wella. Gyda chipolygon clir, penodol i ysgol, gall athrawon gynllunio ymyriadau targedig sydd wedi’u seilio mewn tystiolaeth ac sy’n gyson â chyd-destun unigryw eu hysgol.
Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd mae dysgwyr iachach yn ddysgwyr gwell. Pan fydd myfyrwyr yn teimlo’u bod yn ddiogel, wedi’u cefnogi ac yn iach, maen nhw’n fwy tebygol o fynd i’r ysgol, ymddiddori a chyflawni eu potensial llawn. Mae sylfaen iechyd a lles gadarn yn hanfodol i lwyddiant academaidd a thwf personol. Dyma pam mae gwaith y Rhwydwaith mor bwysig: mae’n helpu ysgolion i greu’r math o amgylchedd lle gall pob dysgwr ffynnu.
Mudiad Cenedlaethol
Mae’r Rhwydwaith yn rhan o ymdrech ehangach i wreiddio iechyd a lles yn y system addysg. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Ysgolion Iach ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod data lefel ysgol yn cyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a datblygiad polisi.
Fel y mae Lynne NeagleAS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi’i amlygu, mae’r gwaith hwn yn ymwneud â mwy na data – mae’n ymwneud â grymuso ysgolion i wneud newid ystyrlon parhaus:
“Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn gonglfaen o ran darparu data a thystiolaeth amhrisiadwy sy’n llunio polisi ac ymarfer. … Mae’r data hanfodol hwn yn ategu polisïau iechyd meddwl ac addysg Llywodraeth Cymru ac mae’n gyrru gwaith mawr ei effaith yn y sector addysg ehangach ac mewn academia. Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan flaenllaw mewn gweddnewid y tirlun addysg, gan sicrhau lles ein plant a dyfodol ein cymunedau.”
Beth rydym ni’n ei fesur
Yn y Rhwydwaith, rydym yn gwybod bod cefnogi dysgwyr yn golygu edrych ar y darlun llawn. Dyma pam mae ein harolygon yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau sy’n bwysig iawn i ysgolion ac i ddysgwyr. O iechyd meddwl a lles emosiynol, i weithgarwch corfforol, maeth, defnyddio sylweddau, hinsawdd yr ysgol a llais y disgybl – bwriedir i’n dulliau fod yn gynhwysfawr. Trwy roi darlun cliriach i ysgolion o brofiadau eu dysgwyr, rydym ni’n eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, ystyrlon, sy’n cefnogi lles drwyddi draw.
Sut mae’r Rhwydwaith yn Helpu Ysgolion i Gael Effaith Barhaus
Mae’r Rhwydwaith yn paratoi ysgolion â’r offer, yr hyfforddiant a’r cysylltiadau y mae eu hangen arnynt i greu newid ystyrlon parhaus. O hybu lles dysgwyr i gryfhau ymgysylltu â’r gymuned, bwriedir i’n dulliau fod yn ymarferol a grymusol. Mae ysgolion yn cael at ddata teilwredig o ansawdd uchel sy’n llywio cynllunio, yn cefnogi arolygiadau ac yn dilyn trywydd cynnydd gydag amser. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol sy’n helpu staff i dyfu ac rydym yn meithrin diwylliant o gydweithredu trwy rwydwaith cadarn o ysgolion, ymchwilwyr a phartneriaid sector cyhoeddus. Hefyd, mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion i rymuso pobl ifanc i gymryd yr awenau mewn mentrau lles, gan hyrwyddo diwylliant ysgol cadarnhaol a chynhwysol. Trwy ddefnyddio gwybodaeth y Rhwydwaith, gall ysgolion feithrin perthnasoedd cryfach â theuluoedd a gwasanaethau lleol, a gwreiddio gwelliannau cynaliadwy sydd o fudd i gymuned gyfan yr ysgol.
Beth mae ysgolion yn ei ddweud
Mae’r cipolygon mwyaf ystyrlon i waith y Rhwydwaith yn dod yn uniongyrchol oddi wrth yr ysgolion rydym ni’n gweithio gyda nhw ac sy’n ysbrydoli ein gwaith:
“Mae data’r Rhwydwaith yn ein helpu i gynllunio cwricwlwm sy’n ymateb i brofiadau gwirioneddol dysgwyr.”
Ysgol Maes y Gwendraeth
“Mae ein data o’r Rhwydwaith wedi ein helpu i greu cwricwlwm lles priodol i oedran, wedi’i arwain gan ddysgwyr.”
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Dathlu Grym Dull wedi’i lywio gan Dystiolaeth
Rydym ni wedi archwilio sut mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion ar draws Cymru i osod iechyd a lles wrth wraidd addysg. O ddarparu data teilwredig o ansawdd uchel i feithrin cydweithredu a thwf proffesiynol, mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion i wneud newidiadau ystyrlon, gwybodus sydd o fudd i ddysgwyr a staff fel ei gilydd.
Mae lleisiau ysgolion eu hunain yn adrodd cyfrolau – dangos sut mae data’r Rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio i lunio cwricwla ymatebol, cefnogi arolygiadau a chryfhau ymagweddau ysgol gyfan at iechyd a lles. Mae’r enghreifftiau go iawn hyn gan ysgolion yn ein hatgoffa bod ysgolion, pan fydd ganddynt yr offer a’r cipolygon cywir, yn gallu creu amgylcheddau lle caiff pob dysgwr gyfle i ffynnu.
Wrth ei wraidd, mae’r Rhwydwaith yn ymwneud â phartneriaeth, tystiolaeth ac effaith. Ac wrth i ysgolion barhau i ymgysylltu â’r rhwydwaith, mae’r ymdrech gyfunol i adeiladu cymunedau dysgu cryfach ac iachach yn tyfu’n gryfach fyth.
Archwilio Mwy a Chadw mewn Cysylltiad
Ymwelwch â’n tudalen i ddarllen enghreifftiau go iawn o sut mae ysgolion yn defnyddio data’r Rhwydwaith i yrru newid cadarnhaol.
Cyflwynir gan Sally Amos ac Emma Taylor, Tîm Ysgolion Iach Sir Fynwy
Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma:
Manteisio ar Ddata Rhwydwaith i Ysgogi Gwelliannau Iechyd a Lles Cydweithredol ar draws Clwstwr Ysgolion – Rhwydwaith Cymraeg Sir Fynwy ar gyfer Ysgolion sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles (WNHWPS)
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod diweddariad i Ddangosfwrdd Data Iechyd a Lles Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn fyw!
Mae’r dangosfwrdd hwn, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cipolygon hygyrch, wedi’u gyrru gan ddata, i iechyd a lles dysgwyr uwchradd ledled Cymru.
Beth sy’n newydd?
Mae’r diweddariad hwn yn cyflwyno bron i 30 pwnc newydd ar gyfer pedair blynedd yr arolwg (2017, 2019, 2021 a 2023) ac mae’n bosibl gweld gwybodaeth rhywedd, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol a gwahanol lefelau daearyddol. Mae’r ychwanegiadau hyn yn darparu cipolygon newydd i iechyd a lles presennol dysgwyr uwchradd yng Nghymru, ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
Nodweddion Wedi’u gwella
Daw’r dangosfwrdd diweddaredig gyda data cynhwysfawr i’w lawrlwytho sy’n cynnwys nifer y dysgwyr a ymatebodd i’r cwestiwn a chyfanswm nifer y dysgwyr a holwyd. Hefyd, mae’n cynnwys hepgoriadau a chyfraddau ymateb. Mae’r siartiau a’r tablau data a grëwyd o fewn y dangosfwrdd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â thabl data i gyd-fynd â nhw, gan ddisodli’r Adroddiad Cenedlaethol o 2023 ymlaen, yr arferai’r Rhwydwaith ei gyhoeddi.
Datblygiad Parhaus
Mae’r platfform yn esblygu’n barhaus, gyda rhagor o ddangosyddion a dadansoddiadau yn yr arfaeth mewn diweddariadau i ddod. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at yr amserlen gyhoeddi arfaethedig ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r astudiaeth achos hon yn arddangos sut defnyddiodd Ysgol Gynradd Cogan ddata’r Rhwydwaith yn effeithiol i nodi a mynd i’r afael â’r heriau allweddol yr oedd disgyblion Blwyddyn 6 yn eu hwynebu, gan gynnwys diffyg hunan-barch ac anawsterau mewn perthnasoedd â chyfoedion.
Gyda chymorth Cydlynydd Ysgolion Iach WNHWPS a sefydliad allanol, cyflwynodd yr ysgol ymyrraeth dargedig i hybu hyder, gwell ymwybyddiaeth emosiynol a meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cyfoedion. Mae eu hymagwedd gydweithredol a defnyddio adnoddau allanol wedi arwain at fuddion sy’n para i’w dysgwyr.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy
Meithrin Dyfodol Mwy Disglair: Sut mae Ysgol Gynradd Cogan yn Defnyddio Data’r Rhwydwaith i Rymuso Ymadawyr Blwyddyn 6.