
Yma yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), rydym ni’n croesawu cyhoeddi’r Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: anghenion tystiolaethol heb eu diwallu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn amlygu pwysigrwydd data cadarn a rheolaidd i werthuso sut mae Fframwaith y Dull Ysgol Gyfan yn cael ei gyflawni ac, yn holl bwysig, pa wahaniaeth mae’n ei wneud.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod bod ystod eang o wybodaeth werthfawr eisoes wedi cael ei chasglu, casglwyd llawer ohoni trwy weithgareddau unigol. I ategu gwelliant parhaus, mae’r adroddiad yn amlygu bod angen data mwy cyson a chynrychioliadol o bob rhan o gymuned yr ysgol – yn enwedig gan staff ysgol a rhieni/gofalwyr.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o feysydd allweddol lle mae angen rhagor o dystiolaeth, gan gynnwys:
- Ymgysylltu a chyfathrebu â chymuned yr ysgol gyfan.
- Llesiant ac anghenion cymorth staff.
- Diwylliant ac amgylchedd ysgolion.
- Blaenoriaethu ac adnoddau.
- Partneriaethau â gwasanaethau cymorth.
- Alinio â strategaethau addysg ac iechyd.
- Cyflawni ar draws pob lleoliad addysg.
- Profiadau, llesiant ac anghenion hyfforddiant staff.
Dyma ble mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan allweddol o ran mynd i’r afael â’r anghenion tystiolaethol a nodwyd yn adroddiad Llywodraeth Cymru. Trwy ein harolygon rheolaidd ar lefel dysgwyr ac ysgolion, mae’r rhwydwaith yn darparu ffynhonnell gadarn a chynrychioliadol o ddata iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a lles; gweithgarwch corfforol; ymddygiadau deietegol; defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol; perthnasoedd cymdeithasol; cysylltedd â’r ysgol; iechyd rhywiol a defnyddio sylweddau. Mae’r dystiolaeth hon yn cynorthwyo ysgolion, awdurdodau lleol a llunwyr polisi cenedlaethol i olrhain cynnydd, amlygu bylchau a hysbysu ymyriadau targedig.
Hefyd, rydym yn cipio llais y disgybl a chyfranogiad, gan helpu i sicrhau bod dysgwyr yn chwarae rhan weithgar mewn llunio mentrau lles. Mae ein data’n ategu dadansoddiadau o degwch a chynhwysiant, gan amlygu sut brofiad a gaiff gwahanol grwpiau o ddarpariaeth iechyd a lles. Trwy gysylltu ymdrechion lles â deilliannau addysgol, rydym yn helpu i ddangos effaith ehangach y mentrau hyn. Yn holl bwysig, mae ein canfyddiadau’n llywio’r ddealltwriaeth o hyder a gallu’r staff i ddarparu cymorth lles, gan sicrhau bod datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau ymarferol a’r heriau sy’n cael eu hwynebu mewn ysgolion. Gyda’i gilydd, mae’r cyfraniadau hyn yn helpu i adeiladu darlun mwy cyflawn, wedi’i lywio gan dystiolaeth, o’r hyn sy’n gweithio – a ble mae angen cymorth pellach.
Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod ein bod yn gyfrannwr allweddol at y sylfaen dystiolaeth:
“Mae hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) sy’n ffynhonnell bwysig o ddata iechyd a lles cadarn, rheolaidd trwy ei arolygon ar lefel dysgwyr ac ysgolion.”
“Mae SHRN yn cynnig cyfle gwych i fynd i’r afael â’r anghenion tystiolaethol heb eu diwallu a nodwyd ar gyfer dysgwyr ac uwch arweinwyr ysgolion er mwyn cefnogi monitro a gwerthuso hirdymor gwell“
Yn ogystal, mae’r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn amlygu sut gall y Rhwydwaith fynd i’r afael â’r bylchau hyn mewn tystiolaeth. Mae data cadarn, manwl a hirdymor ein harolygon yn cael ei gasglu fel mater o drefn oddi wrth dysgwyr mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd, ac uwch arweinwyr ysgolion. Mae data’r dysgwyr (11-16 oed) eisoes yn cael ei integreiddio hefyd i fanc data SAIL, sy’n darparu cyfleoedd gwych am gysylltu â setiau data addysg ac iechyd eraill i archwilio effaith y Fframwaith a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y deilliannau hyn gydag amser.
Yn ogystal, mae’r Rhwydwaith yn cyd-gadeirio Bwrdd y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd i sicrhau bod mesurau’r arolwg yn cyd-fynd â safonau arfaethedig y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles. Mae’r safonau hyn yn cyd-fynd yn agos â’r Fframwaith ac mae’r cysoni hwn yn sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn gallu cefnogi’n uniongyrchol llawer o’r anghenion tystiolaethol heb eu diwallu a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r Rhwydwaith yn gweld cyfleoedd pellach i wella’r tirlun data, gan gynnwys:
- Datblygu ymhellach y dangosfwrdd cenedlaethol ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnwys data ychwanegol ysgolion uwchradd a lansio’r dangosfwrdd data cynradd (2026).
- Lansio dangosfyrddau lefel ysgol y Rhwydwaith i gefnogi gwneud penderfyniadau yn lleol (2026).
- Ymestyn casglu data i bob ysgol gynradd.
- Cynnal casgliad peilot o ddata’r arolwg gydag Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) ar draws Cymru.
Yma yn y Rhwydwaith, trwy gydweithio ar draws sectorau, systemau a chymunedau, credwn y gall y Dull Ysgol Gyfan ddod yn rhan ddynamig ac ymatebol o fywyd ysgol – un sy’n esblygu i ateb anghenion newidiol dysgwyr a staff. Mae’r Rhwydwaith yn gwbl ymrwymedig i gefnogi’r weledigaeth hon a chyfrannu at ddyfodol iachach, mwy gwydn i bob dysgwr yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu amgylchedd cryfach, mwy cefnogol, i bob dysgwr ac addysgwr yng Nghymru.